Sections

The Pensions Regulator


    Keep up to date
    News-by-email
    RSS news feed Subscribe to RSS news feed

    Cymraeg

    Cymraeg

    CymraegY Rheoleiddiwr Pensiynau

    Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio cynlluniau pensiwn sy'n seiliedig ar waith yn y DU.

    Gallwch gysylltu â'n tîm cymorth i gwsmeriaid dros y ffôn ar: 0870 6063636, rhwng 9am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy e-bost: customersupport@thepensionsregulator.gov.uk

    PDF icon Cynllun laith Gymraeg: 2008 

    PDF icon Gwybodaeth am ddefnyddio'r wefan

    Amdanom ni

    Ein hamcanion

    Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio cynlluniau pensiwn sy'n seiliedig ar waith yn y DU.
    Mae Deddf Pensiynau 2004 yn rhoi cyfres o amcanion penodol i'r Rheoleiddiwr Pensiynau:

    • diogelu buddiannau aelodau cynlluniau pensiwn sy'n seiliedig ar waith;
    • hyrwyddo prosesau da o weinyddu cynlluniau pensiwn sy'n seiliedig ar waith; a
    • lleihau'r risg y bydd sefyllfaoedd yn codi a allai arwain at geisiadau am iawndal gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.

    Er mwyn bodloni'r amcanion hyn, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gynlluniau y nodwn sy'n cyflwyno'r risg fwyaf i ddiogelwch buddiannau'r aelodau.

    Byddwn hefyd yn hyrwyddo safonau uchel wrth weinyddu cynlluniau, ac yn gweithio i sicrhau bod gan y rhai sydd ynghlwm wrth redeg cynlluniau pensiwn y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol.

    Beth yw cynllun pensiwn sy'n 'seiliedig ar waith'?

    Cynllun pensiwn sy'n seiliedig ar waith yw unrhyw gynllun y mae cyflogwr yn ei gynnig i gyflogeion. Mae hyn yn cynnwys pob cynllun galwedigaethol, ac unrhyw gynlluniau pensiwn personol a chynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid lle mae gan gyflogeion drefniadau talu uniongyrchol. 

    PDF icon Ein pwerau

    PDF icon Casglu data

    PDF icon Asesu risg

    PDF icon Cynorthwyo ein cwsmeriaid

    PDF icon Ein partneriaethau

    PDF icon Diwygio pensiynau

    PDF icon Y bwrdd

    PDF icon Amrywiaeth

    PDF icon Cynllun cydraddoldeb sengl

    PDF icon Gyrfaoedd

    PDF icon Secondiadau


    Aelodau cynlluniau

    Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio cynlluniau pensiwn sy'n seiliedig ar waith yn y DU. 

    Pensiwn sy'n seiliedig ar waith yw unrhyw bensiwn - gan gynnwys pensiwn galwedigaethol, pensiwn personol a phensiwn cyfranddeiliaid - y mae eich cyflogwr yn ei gynnig i chi.

    Fel rheoleiddiwr, ein nod yw annog safonau uchel o ran y modd y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg. Dyma'r ffordd orau o atal problemau rhag datblygu - problemau a allai beryglu eich buddiannau pensiwn.

    Rydym yn gweithio gydag ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn a rheolwyr cynlluniau (a'ch cyflogwr hefyd) i helpu i ddiogelu eich pensiwn. Os bydd problemau'n datblygu, mae gennym bwerau i unioni pethau.

    Sut mae'r rheoleiddiwr yn gweithio

    Prif flaenoriaeth y Rheoleiddiwr Pensiynau yw mynd i'r afael â risgiau i fuddiannau aelodau.

    Gallwn gael gwybodaeth am risgiau posibl gan ymddiriedolwyr, rheolwyr, cynghorwyr neu aelodau cynllun.

    I fynd i'r afael â'r risgiau hyn gallwn:

    • helpu'r ymddiriedolwyr a'r cyflogwr i ddod i gytundeb ynghylch lefel y cyfraniadau i'r cynllun, a rhoi cynllun ariannu hirdymor ar waith;
    • gorchymyn i gyflogwr dalu unrhyw ddiffyg mewn cynllun;
    • gorchymyn i weinyddwyr cynlluniau wella'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt i ymddiriedolwyr; neu
    • sicrhau bod yr arian a gafodd ei ddwyn o gynllun yn cael ei ddychwelyd.

    Mynd i'r afael â risgiau

    Rydym yn archwilio cynlluniau pensiwn yn fanwl, yn asesu lefel y risg ac yn cymryd camau i leihau neu ddileu'r risg lle bo'r risg honno'n codi.

    Dyma rai enghreifftiau o risg:

    • nid oes digon o arian yn y cynllun i ddarparu'r buddiannau y mae aelodau'n eu disgwyl;
    • gwaith gweinyddol gwael gan yr ymddiriedolwyr neu eraill sy'n gysylltiedig â rhedeg cynllun - er enghraifft, colli cofnodion hollbwysig;
    • cyflogwyr yn methu â chyfrannu at gynllun am fod y busnes mewn trafferthion; neu
    • rywun yn ceisio dwyn arian o gynllun pensiwn.

    Y Gronfa Diogelu Pensiynau

    Mae'r Llywodraeth wedi sefydlu'r Gronfa Diogelu Pensiynau i helpu aelodau cynlluniau pensiwn buddiant diffiniedig cymwys (a elwir hefyd yn gynlluniau cyflog terfynol neu'n gynlluniau sy'n gysylltiedig â chyflog) os:

    • bydd eu cyflogwr yn mynd yn fethdalwr;
    • nad oes gan gynllun pensiwn y cwmni arian i dalu lefel y buddiannau a ddisgwylir; ac
    • os yw'r Gronfa Diogelu Pensiynau wedi dod yn gyfrifol am y cynllun.

    Eich cynllun

    Yn y lle cyntaf, os hoffech gael mwy o wybodaeth am eich cynllun a'r buddiannau y gallwch eu disgwyl, dylech gysylltu ag ymddiriedolwyr neu reolwr eich cynllun pensiwn.
     
    Os oes cwyn neu broblem gennych ynghylch eich pensiwn, dylech holi'r ymddiriedolwyr ynghylch gweithdrefn gwyno swyddogol y cynllun. (Rhaid i bob cynllun gael gweithdrefn gwyno, ac mae'n golygu bod yn rhaid iddynt ymchwilio i bob cwyn yn briodol.)

    Cyhoeddiadau